Mae Heddlu De Cymru yn dal i ymchwilio i farwoaleth Frederic Pallade, 48, ym mhentref Clydach ganol Ebrill eleni.

Bu farw yn dilyn digwyddiad yn Ffordd Gellionnen tua 8.30yh ar nos Fercher, Ebrill 17.

Fe gafodd swyddogion eu galw, a dod o hyd i Frederic Pallade wedi’i anafu’n ddifrifol yn y stryd. Fe gafodd ei gludo i Ysbyty Treforys mewn ambiwlans, ond bu farw yn ddiweddarach y noson honno.

Mae dyn wedi cael ei gyhuddo mewn cysylltiad â’i farwolaeth.

Ond mae’r heddlu yn dal i ymchwilio i fynd a dod tri o ddynion – y cyntaf tua 50 oed, yn denau o gorffolaeth ac sydd wedi sôn wrth bobol eraill ei fod yn yr ardal adeg y digwyddiad ar Ebrill 17. Mae lle i gredu hefyd ei fod yn adnabod Frederic Pallade.

Y gred ydi fod yr ail ddyn y mae’r heddlu’n awyddus i siarad ag ef, yn gwisgo siorts a chap pêl-fâs adeg y digwyddiad.

Mae’r trydydd dyn yn ei 40au, yn gwisgo hwdi llwyd a throwsus tracwisg, ac yn siarad ar ei ffôn symudol pan gafodd ei ddal ar gamera yn yr ardal ar Ebrill 17.