Mae 11 o gynghorwyr Plaid Cymru yng Ngwynedd wedi galw am dderbyn Neil McEvoy yn ôl i’r blaid.

Fe gafodd yr Aelod Cynulliad ei wahardd am gyfnod o ddeunaw mis – a newidiwyd i 12 mis wedyn – ym mis Mawrth 2018 ar ôl iddo “dorri cyfres o reolau sefydlog y blaid”.

Ym mis Mawrth eleni, cafodd gyfle i anfon cais i ailymuno, ond er i’r cais hwnnw gael ei anfon i Blaid Cymru ar Fawrth 31, mae Pwyllgor Aelodaeth, Safonau a Disgyblu’r blaid yn dal heb ddod i benderfyniad.

Yn ôl llythyr gan gynghorwyr Gwynedd, mae Neil McEvoy, sy’n AC tros Ganol De Cymru, yn “ased pwysig i’r blaid ledled Cymru” ac fe ddylai gael dychwelyd i’r blaid “yn ddi-oed”.

Maen nhw hefyd yn dweud eu bod yn “bryderus iawn” ynglŷn â’r ffordd mae’r broses o aildderbyn Neil McEvoy yn cael ei thrin.

“Ymddengys yn ystod cyfarfod y panel, enillodd Neil y bleidlais i’w aildderbyn gan fwyafrif o 6 i 5, cyn i Gadeirydd y panel gymryd y cam anarferol o bleidleisio i greu pleidlais gyfartal cyn diddymu’r pwyllgor,” meddai’r llythyr.

“Byddai cynnull panel newydd, wedi ei ddewis gan Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol y blaid i oruchwylio’r broses o’i aildderbyn, ond yn cymylu’r broses ymhellach gydag ymyrraeth wleidyddol.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Blaid Cymru am ymateb.