Bydd un o benaethiaid cwmni Ford yn ymddangos gerbron pwyllgor seneddol heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 8) yn dilyn y penderfyniad i gau’r ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Fe gyhoeddodd y cwmni ceir fis diwethaf y byddai’r ffatri yn ne Cymru yn cau ymhen dwy flynedd, gan roi 1,700 o swyddi yn y fantol.

Bydd Steven Armstrong, cadeirydd cwmni Ford yn Ewrop, yn wynebu cwestiynau gan aelodau o’r Pwyllgor Materion Cymreig y prynhawn yma.

Dywed y pwyllgor eu bod yn awyddus i wybod os oes gan Brexit gysylltiad â’r penderfyniad, a oes siawns am newid yn y cynlluniau i gau, ac a oes bwriad i gau unrhyw safleoedd eraill yn ogystal.

Mewn ail wrandawiad, bydd yr Aelodau Seneddol hefyd yn clywed tystiolaeth gan gynrychiolwyr o undebau’r gweithwyr a Chyngor Pen-y-bont ar Ogwr, tra bydd trydydd gwrandawiad yn cynnwys Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru, Ken Skates.