Mae ysgoloriaeth sydd wedi bod yn meithrin cysylltiadau addysg a diwydiant yng Nghymru wedi dod i ben, ddwy flynedd cyn diwedd y prosiect, oherwydd helynt Prifysgol Cymru a chwestiynau ynglyn a gweinyddu’r cynllun.

Heddiw, fe gyhoeddodd y Gweinidog Busnes a Mentergarwch Edwina Hart, fod cynllun sydd wedi bod yn ariannu ymchwil i anghenion diwydiannau technolegol yng Nghymru ar fin cael ei ddirwyn i ben.

Derbyniodd Aelodau Cynulliad lythyr gan Edwina Hart yn dweud y byddai Cynllun Ysgoloriaethau Arloesi Tywysog Cymru (POWIS), sydd werth £11miliwn, yn dod i ben yn sgil helbulon diweddaraf Prifysgol Cymru – a fu’n arwain y cynllun.

Mae’r Brifysgol wedi bod yn wynebu honiadau o dwyll yn ymwneud â fisas myfyrwyr mewn colegau oedd yn cynnig cyrsiau Prifysgol Cymru. A’r wythnos hon, roedd y Gweinidog Addysg Leighton Andrews wedi galw ar Gadeirydd Cyngor Prifysgol Cymru, D Hugh Thomas,  i “ystyried ei sefyllfa.”

Daw’r cyhoeddiad diweddaraf  wedi i adolygiad o’r cynllun, sy’n derbyn £5miliwn o fuddsoddiad Ewropeaidd, gael ei lansio ym mis Ionawr. Mae’r adolygiad hwnnw wedi dod i’r casgliad bod diffygion gweinyddol ynghlwm â’r cynllun.

Yn ôl y datganiad gan Edwina Hart, darganfuwyd “nifer o ddiffygion rheoleiddio a llywodraethu, yn bennaf mewn cysylltiad â pha mor gymwys oedd yr arian Ewropeaidd a gafodd ei wario.”

Roedd Swyddfa Cyllid Ewrop Cymru eisoes wedi atal taliadau ar y prosiect tra bod yr adolygiad yn mynd yn ei flaen – a dim ond £0.4 miliwn sydd wedi cael ei dalu o’r gronfa ar gyfer y prosiect hyd yn hyn.

“Mae’r Swyddfa nawr yn cydweithio â Phrifysgol Cymru er mwyn sicrhau bod y prosiect yn cael ei ddirwyn i ben, tra’n bod ni’n parhau i ariannu ymrwymiadau cytundebol i fyfyrwyr cymwys a busnesau,” meddai Edwina Hart.

“Bydd yr arian Ewropeaidd sydd wedi cael ei dynnu oddi wrth y prosiect nawr yn cael ei ddefnyddio i gefnogi prosiectau eraill,” meddai.

Roedd y cynllun yn gwahodd pobol led led y byd i wneud cais am ysgoloriaeth o dan y cynllun, a fyddai’n arwain at gydweithio â chwmniau yng Nghymru.

‘Siom’

Ond mae’r Aelod Cynulliad Peter Black wedi mynegi siom fod cynllun o’r fath yn cael ei atal, heb arwydd bod unrhyw gynllun arall i ddod yn ei le.

“Mae cynlluniau fel hyn yn holl bwysig er mwyn creu cysylltiad rhwng addysg uwch yng Nghymru ag anghenion masnachol y wlad,” meddai wrth Golwg 360.

“Dwi’n derbyn efallai fod yn rhaid iddo ddod i ben oherwydd problemau mewnol,” meddai, “ond beth sy’n fy siomi i yw nad oes dim byd arall yn dod yn lle’r cynllun.

“Os na wnawn ni ddod o hyd i gynllun i gymryd ei le nawr, mae’n debygol iawn y byddwn ni’n cyrraedd sefyllfa lle mae’r cysylltiadau gwerthfawr sydd ganddon ni rhwng addysg a diwydiant ar hyn o bryd yn cael eu colli,” meddai.

Mae’r cynllun wedi bod yn rhoi profiad gwaith a chyfleon ymchwil i fyfyrwyr mewn diwydiannau technolegol ar draws gorllewin a de Cymru.

Mae’r Aelod Cynulliad dros Orllewin De Cymru nawr yn galw ar Edwina Hart, y Gweinidog Busnes a Mentergarwch, i ystyried cynlluniau eraill “er mwyn cymryd lle’r cynllun hwn cyn gynted â phosib.”

“Mae diwedd y Cynllun Arloesi,” meddai Peter Black, “yn golygu nad oes yna gynllun tebyg i gael nawr lle gall Llywodraeth Cymru fuddsoddi’n uniongyrchol mewn ymchwil i ddiwydiant yng Nghymru.”