Carwyn Jones
Bydd cynllun newydd £75 miliwn yn creu 4,000 o swyddi newydd y flwyddyn yng Nghymru dros y tair blynedd nesa, yn ôl Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones.

Fe fydd y cynllun Twf Swyddi Cymru yn cychwyn ym mis Ebrill y flwyddyn nesa gan greu cyfleoedd i bobl ifainc di-waith rhwng 16 a 24 oed dros gyfnod o chwe mis.

Dywedodd Carwyn Jones: “Mae Twf Swyddi Cymru yn bolisi sy’n dangos ein hymrwymiad i hybu twf economaidd a chreu swyddi yng Nghymru.

“Nid yn unig fydd y cynllun yn creu cyfleoedd i bobl ifainc di-waith, ond fe fydd y swyddi yma yn swyddi newydd, gan helpu busnesau i ehangu hefyd,” meddai.

Fe fydd y rhai sy’n cymryd rhan yn y cynllun yn cael eu talu’r isafswm cyflog cenedlaethol am isafswm o 25 awr yr wythnos. Fe fydd y Llywodraeth yn ariannu’r cynllun drwy gyfrannu £25 miliwn y flwyddyn.

Bu’r  Gweinidog Addysg Leighton Andrews yn rhoi manylion ynglŷn â’r cynllun i Aelodau’r Cynulliad heddiw gan gyhoeddi y bydd cyfnod peilot yn caelei gynnal cyn i’r cynllun ddechrau y flwyddyn nesaf.

Dywedodd y byddai’r  rhan fwyaf o’r swyddi o fewn y sector preifat, er y bydd rhai cyfleoedd ar gael yn y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol. Fe fydd cynllun peilot yn cael i gynnal dros yr hydref cyn i’r cynllun ddechrau fis Ebrill nesaf.