Fe allai cost cinio ysgol gael ei ostwng i deuluoedd sydd â mwy nag un plentyn, o dan gynlluniau newydd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai’r cynllun yn annog rhieni i ddewis cinio ysgol ar gyfer eu plant, yn ogystal â helpu teuluoedd ar incwm isel sydd ddim yn derbyn cinio ysgol am ddim.

Mae’r cynlluniau’n cael eu trafod mewn  papur gwyn newydd ar wella safonau mewn ysgolion.

Mae’r ddeddfwriaeth bresennol yn atal cynghorau rhag helpu teuluoedd sydd â nifer o blant, drwy ganiatau iddyn nhw ostwng prisiau ar gyfer ail blentyn neu godi llai ar blant iau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru heddiw eu bod nhw’n awyddus i helpu plant teuluoedd ar incwm isel sydd ddim yn cael cinio ysgol am ddim, yn ogystal â chynyddu nifer y plant sy’n dewis cinio ysgol.

Mae’r papur gwyn yn awgrymu y dylai’r gyfraith bresennol gael ei diddymu er mwyn rhoi’r “rhyddid” i gynghorau a chyrff llywodraethu ysgolion i godi prisiau is am ginio ysgol i rai plant.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg Leighton Andrews bod codi safonnau mewn ysgolion yn “hanfodol” er mwyn rhoi’r cyfleoedd gorau posib i blant mewn bywyd.