Mae angen gwahardd yr hawl i chwilio am olew a nwy oddi ar lannau Cymru, yn ôl llefarydd amgylchedd Plaid Cymru.

Daw galwad Llyr Huws Gruffydd bedair blynedd ers gwahardd cynghorau rhag rhoi caniatâd ar gyfer ffracio heb gytundeb Llywodraeth Cymru.

Yn ddiweddar, roedd cwmni rhyngwladol, Eni UK, wedi ceisio cael caniatâd i chwilio am olew a nwy ym Mae Ceredigion, ond cafodd y cais ei ohirio gan Lywodraeth Prydain.

Mae Llyr Huws Gruffydd o’r farn y dylai moroedd Cymru gael eu hamddiffyn yn yr un modd â’i chymunedau, ac mae’n galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu yn erbyn prosiectau sy’n chwilio am danwydd ffosil.

“Yn yr un modd ag y dywedwyd wrth gynghorau na allen nhw roi trwyddedau ffracio, mae’n bwysig dweud wrth Gyfoeth Naturiol Cymru na all roi trwyddedau o dan ei gymhwysedd i alluogi profion seismig ar y môr,” meddai’r Aelod Cynulliad tros Ogledd Cymru.

“Mae hyn oherwydd bod yn rhaid i ni gael dyfodol di-ffosil o danwydd os ydym am chwarae ein rhan yn lleihau allyriadau carbon.

“Mae hefyd yn wir bod angen gwarchod ecoleg sensitif Bae Ceredigion ar gyfer y bywyd gwyllt sy’n byw yno a’r diwydiant pysgota lleol.”