Mae dyn o Bontypridd a blediodd yn euog i 158 o droseddau rhyw yn ymwneud â phlant, wedi ei garcharu am bymtheng mlynedd.

Fe gafodd Owain Thomas, 29, ei ddisgrifio’n unigolyn “peryglus”, wedi iddo ddefnyddio cyfres o wefannau cymdeithasol a gemau ar-lein er mwyn perswadio 146 o ddioddefwyr i gyflawni gweithredoedd rhywiol.

Yn ôl yr heddlu, roedd wedi defnyddio enwau a thudalennau ffug ar wefannau Skype a Facebook er mwyn dod i gysylltiad â’i ddioddefwyr, cyn eu ffilmio yn cyflawni gweithredoedd anweddus.

Roedd y dioddefwyr yn byw mewn gwahanol rannau o wledydd Prydain a’r byd, gan gynnwys yr Unol Daleithiau.

Cafodd Owain Thomas ei arestio fis Tachwedd y llynedd ar ôl iddo ofyn i griw o fechgyn ifanc mewn maes chwarae yn ardal Glynrhedynog, Rhondda Cynon Taf, i dynnu eu dillad a dangos rhan benodol o’u cyrff.

Cafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Merthyr heddiw (dydd Gwener, Gorffennaf 5).

Roedd y cyhuddiadau yn ei erbyn yn cynnwys annog plentyn i gyflawni gweithred rywiol, achosi plentyn i wylio gweithred rywiol, a bod ym meddiant delweddau anweddus o blant.