Arglwydd Dafydd Elis-Thomas
Mae’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi dweud wrth Golwg360 heddiw y byddai’n gofyn ar bob un sy’n gysylltiedig â chyngor Prifysgol Cymru neu unrhyw un o’r swyddogion “i ystyried eu sefyllfa.”

Ac mae wedi cyfaddef iddo gynghori Tywysog Cymru yn y gorffennol i “ddatgysylltu ei hun o Swydd Canghellor Prifysgol Cymru.”

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas ei fod eisiau gweld “creu corff Prifysgolion Cymru fydd yn cynrychioli  pob Prifysgol hen a newydd,” meddai.

Daw hyn wedi i’r Gweinidog Dros Addysg a Sgiliau Leighton Andrews alw ar Gadeirydd Cyngor Prifysgol Cymru, D Hugh Thomas, i ystyried ei sefyllfa “er lles y sefydliad ac er lles Cymru” ddoe. Mae’n dilyn honiadau wythnos ddiwethaf, ynghylch rhai sefydliadau y caiff eu cymwysterau eu dilysu gan  Brifysgol Cymru.

Roedd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi dweud mewn neges ar Twitter heddiw – “Datganiad ein Gweinidog Addysg blaengar yn haeddu ymateb clir gan lywodraethiad ffaeledig ‘prifysgol’ Cymru o’r Canghellor lawr.”

Dywedodd wrth Golwg360 heddiw ei fod yn gobeithio gofyn i’r Gweinidog “pa gamau pellach gweithredol a chyfreithiol mae o’n meddwl y gall gymryd er mwyn sicrhau bod teitl Prifysgol Cymru yn dod i ben mewn disgrifiad o sefydliad unigol,” meddai gan ddisgrifio’r mater fel un “difrifol iawn.”

‘Anghyfreithlon a dan din’

“Mae Prifysgol Bangor newydd ddod i fyny yn rhif 251 yn un o’r tablau byd eang ’ma o brifysgolion o ragoriaeth. Mae yn effeithio arnon ni gyd pan rydan ni’n trio denu myfyrwyr a phartneriaid mewn llefydd eraill yn y byd, bod enw Cymru yn cael ei gysylltu hefo pethau anghyfreithlon a dan din mewn gwirionedd,” meddai.

“Dw i wedi cynghori Tywysog Cymru yn y gorffennol y dylai ddatgysylltu ei hun o swydd Canghellor y Brifysgol oherwydd mae ei enw dal yna. Roedd ei enw ar yr ysgoloriaethau ‘ma oedd yn cael eu cyllido gan Lywodraeth Cymru. Mae’r sefyllfa ddiweddar yn gwneud pethau’n waeth.

“Dw i wedi bod yn dweud hyn ers blynyddoedd – bod eisiau dod â’r enw i ben oherwydd bod o ddim yn gwneud synnwyr i gael sefydliad yn cael ei enwi yn un cenedlaethol.

“Os cymharwch chi’r sefyllfa efo colegau addysg bellach, maen nhw’n galw eu hunain yn Golegau Cymru pan maen nhw’n siarad efo’i gilydd fel un corff.  Ma’ yna argymhelliad wedi’i wneud ers misoedd dylai fod ‘na gorff tebyg o Brifysgolion Cymru’n cael ei sefydlu lle gall pawb gydweithio. Wedyn, mi fyddai hynny yn golygu diddymu’r enw gan mai gweddillion sydd ar ôl ydi o drefn ffederal sydd wedi dod i ben. Dydw i ddim yn deall pam bod pobl yn trio cadw peth felly i fynd.”

‘Drwg i Gymru fel brand’

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas bod yr honiadau diweddar yn gwneud niwed i enw da Cymru.

“ Y peryg ydi bod hwn yn gwneud drwg i Gymru fel brand. Mae ein brand pêl droed a’n brand rygbi ni’n reit dda ar hyn o bryd,” meddai.

“Dydyn ni ddim yn dda iawn rhywsut am ddiddymu pethau sydd ddim bellach yn ddefnyddiol. Dw i’n meddwl bod eisiau i ni fod yn fwy parod i graffu ar ein hunain a gwneud yn siŵr ein bod ni ddim yn cynnal sefydliadau sydd ddim yn gwneud lles i ni.”

‘Rhyddhad’

Dywedodd y  byddai’n ryddhad petae’r enw a’r sefydliad yn dod i ben.

“Tasa yna benderfyniad yn cael ei wneud gan y corff Llywodraethol, Cyngor y Brifysgol fysa hwnnw – bod nhw ddim am barhau a bod nhw’n gofyn i’r Cyfrin Gyngor i ddod â’r enw a’r sefydliad i ben – mi fysa pawb yn rhoi anadliad o ryddhad.

“Faswn i’n gofyn ar bob un sy’n gysylltiedig â chyngor y Brifysgol neu unrhyw un o’r swyddogion i ystyried eu sefyllfa… Mae’n rhaid i rywun gario’r can.”

Mae Golwg360 wedi gofyn i Brifysgol Cymru am ymateb.

Stori: Malan Vaughan Wilkinson