PR stunt” oedd ymweliad Tywysog Charles â hen gartref Hedd Wyn ger Trawsfynydd heddiw, yn ôl ymgyrchydd iaith sy’n hanu o’r ardal.

Ag yntau’n dathlu hanner canrif ers ei arwisgo yng Nghaernarfon, mae mab Brenhines Lloegr wedi bod ar daith drwy Gymru’r wythnos hon, a heddiw mi ymwelodd â’r Ysgwrn.

Dyma oedd cartref Ellis Humphrey Evans, neu Hedd Wyn, y bardd a’r milwr a enillodd cadair Eisteddfod Genedlaethol 1917, ond a fu farw cyn hawlio’i wobr.

Bu farw wrth ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ac am y rheswm hynny mae Elfed Wyn Jones – sy’n adnabyddus am adfer murlun ‘Cofiwch Dryweryn’ – yn gwrthwynebu ymweliad Tywysog Charles.

“Dw i’n gweld o’n ofnadwy a dweud y gwir,” meddai Elfed Wyn Jones wrth golwg360. “Mae’n un o’r bobol sy’n rhan o’r sustem wnaeth yrru’r dynion ifanc i’r ffosydd.

“Mae’n ymweld â’r Ysgwrn fel rhyw fath o ddiwrnod allan … Mae’n PR stunt – cant y cant. Dw i’n credu eu bod nhw’n trio ein paratoi ni am arwisgo arall.

“Dw i ddim yn credu ei fod yn poeni am yr iaith Gymraeg a’r Cymry.”

Yr ymweliad

Ers mis Mehefin 2017 mae’r Ysgwrn wedi bod ar agor i’r cyhoedd ar ei newydd wedd, ac mae yno ganolfan ymwelwyr gyfagos hefyd.

Yn ôl staff y ganolfan cyrhaeddodd Tywysog Charles y safle y bore yma mewn hofrennydd, ac mi dreuliodd tua 50 munud yno.

Mi ymwelodd â’r ganolfan, y tŷ, y bwthyn a’r oriel a dywedodd wrth y staff ei fod yn hoff o gynghanedd.

Er i Dywysog Charles gael ei arwisgo yng Nghastell Caernarfon doedd y dref ddim yn rhan o’i daith –  Trawsfynydd oedd y lleoliad mwyaf gogleddol.