Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi rhybudd i bobol fod yn ymwybodol o arwyddion a symptomau’r frech goch ar ôl nifer o achosion yn Y Rhyl yn Sir Ddinbych.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) yn ymchwilio i dri achos sydd wedi’u cadarnhau o’r haint, a dau achos posib cysylltiedig.

Ymhlith yr achosion mae pobol a oedd wedi bod mewn ystafelloedd aros yn Ysbyty Glan Clwyd, ac mewn sinema a bwyty McDonalds yn y Rhyl pan oedden nhw’n heintus.

Mae ICC yn rhybuddio bod y frech goch yn heintus iawn ac mae’n lledu’n hawdd i bobol sydd heb gael eu brechu.

Maen nhw’n rhybuddio pobol i fod yn wyliadwrus os oedden nhw mewn unrhyw rai o’r lleoedd canlynol:

  •  Sinema’r Vue yn y Rhyl ar brynhawn dydd Sadwrn Mehefin 29;
    •    Bwyty McDonalds ar stryd fawr y Rhyl ar brynhawn dydd Sadwrn Mehefin 29;
    •    Yr adran ddamweiniau ac achosion brys/ystafell aros meddyg teulu y tu allan i oriau yn Ysbyty Glan Clwyd nos Iau  Mehefin 20, bore dydd Sul Mehefin 30 neu nos Sul  Mehefin 30.

Mae ICC yn cynghori unrhyw un a allai fod wedi dod i gysylltiad â’r frech goch yn y lleoliadau yma, ac a gafodd eu geni ar ôl 1970 ac sydd heb gael y frech goch o’r blaen, yn sicrhau eu bod wedi’u brechu’n llawn gyda dau ddos o MMR.

Mae symptomau’r frech goch yn cynnwys tymheredd uchel, peswch, trwyn yn rhedeg, llygaid coch, a brech goch nodweddiadol, sy’n dechrau ar gefn y pen, gan ymledu i’r wyneb ac i lawr y corff. Mae’r frech fel arfer yn ymddangos rhwng tri a phum diwrnod ar ôl i’r symptomau ddechrau.

Dylai unrhyw un sy’n amau bod gan eu plentyn y frech goch gysylltu â’u meddyg teulu neu ffonio Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47.

Yn ôl ICC, dylai pobl â symptomau aros gartref o’r ysgol, meithrinfeydd a digwyddiadau cymdeithasol fel clybiau gwyliau, gwyliau a phartïon pen-blwydd.

Mae rhieni ysgol gynradd leol, Ysgol Clawdd Offa ym Mhrestatyn, wedi cael cyngor uniongyrchol ar arwyddion a symptomau’r frech goch oherwydd bod un o’r achosion wedi bod yn yr ysgol tra’n heintus.

“Lledu’n gyflym”

Meddai Dr Chris Johnson, Ymgynghorydd Diogelu Iechyd: “Ar hyn o bryd, nid ydym yn ymchwilio i achos mawr o’r frech goch, gan nad oes tystiolaeth bod y frech goch wedi lledu y tu hwnt i un grŵp o bobl â chysylltiad agos.

“Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol iawn bod y frech goch yn lledu’n gyflym ac yn hawdd rhwng pobl heb eu brechu ac mae gennym bryderon y gallai eraill fod wedi dod i gysylltiad â’r haint yn y sinema, y bwyty, neu’r ystafelloedd aros gofal iechyd y penwythnos diwethaf.

“Ar bob adeg, rydym yn cynghori y dylai unrhyw un nad yw wedi cael ei frechu’n llawn â dau ddos o MMR i sicrhau ei fod yn cael ei ddiogelu rhag y frech goch, a all fod yn ddifrifol iawn ac a allai fod yn angheuol.

“Gyda gwyliau’r haf ar y ffordd, a phobl yn mynd i ddigwyddiadau mawr a mynd ar wyliau mewn gwledydd lle mae’r frech goch yn gyffredin, byddem yn annog pawb i sicrhau eu bod nhw a’u plant wedi cael y brechlyn MMR.”