Mae Chris Jones, Prif Weithredwr Dŵr Cymru Welsh Water, wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o’r cwmni ddiwedd mis Mawrth 2020.

Mae cyd-sylfaenydd cwmni nid-er-elw Glas Cymru wedi bod wrth y llyw ers bron i 25 mlynedd fel cyfarwyddwr Dŵr Cymru.

Peter Perry, Rheolwr Gyfarwyddwr cyfredol Dŵr Cymru, fydd yn cymryd yr awenau fel Prif Weithredwr o 1 Ebrill 2020 ymlaen.

Yn y flwyddyn 2000, sefydlodd Chris Jones, ynghyd â Nigel Annett, Glas Cymru fel cwmni “nid-er-elw” er mwyn prynu Dŵr Cymru. Y flwyddyn ganlynol, llwyddodd Glas Cymru i brynu Dŵr Cymru gan Western Power Distribution ar ôl codi gwerth £1.9 biliwn mewn bondiau tymor hir.

Dywedodd Chris Jones: “Ar ôl ystyriaeth ddwys, rydw i wedi penderfynu taw dyma’r amser iawn i mi ymddeol fel Prif Weithredwr ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon a mynd ar drywydd diddordebau eraill.”

Ychwanegodd: “Rwy’n hynod falch o’r hyn rydym wedi ei gyflawni ers i Nigel Annett a fi lansio ein cwmni nid-er-elw unigryw nôl yn Ebrill 2000.  Rydyn ni wedi creu pwrpas a gweledigaeth gorfforaethol glir, â diwylliant cadarn a sefydlog o lwyddiant dan arweiniad y cwsmeriaid.  Hyd yn hyn, mae’r cwsmeriaid wedi bod ar eu hennill o ryw £450 miliwn –  ac arian yw hynny a fyddai wedi mynd i ddwylo cyfranddeiliaid mewn cwmnïau eraill.”

“Sialensiau digynsail”

Wrth gyfeirio at yr heriau oherwydd y tywydd gwael yn 2018, dywedodd Chris Jones: “Rwy’n siŵr y bydd y busnes yn parhau i fynd o nerth i nerth gan wneud gwaith gwell byth ar gyfer ei gwsmeriaid yn y dyfodol, am fod y bobl sy’n gweithio dros Ddŵr Cymru’n hynod o fedrus ac yn ymroddgar iawn.  Ni all ddim brofi hynny’n well nac ymateb arwrol fy nghydweithwyr yn wyneb y sialensiau digynsail a welsom o ran y tywydd trwy gydol 2018, wrth iddynt gynnal gwasanaethau ar gyfer cwsmeriaid ac amddiffyn ein hamgylchedd.”

Dywedodd Alastair Lyons, Cadeirydd Bwrdd Glas: “Ychydig iawn o bobl a all hawlio eu bod wedi bod yn allweddol wrth greu model busnes unigryw a diwylliant sy’n ysbrydoli’r bobl hynny sy’n gweithio gyda’r busnes ac sy’n gwsmeriaid iddo. Mawr yw dyled Glas i Chris, a gall fod yn haeddiannol o falch o fod yn Brif Weithredwr ar gwmni sydd gyda’r gorau o ran boddhad cwsmeriaid a’u cysyniad o ran gwerth am arian.”

 Mae Pete Perry wedi bod yn Rheolwr Gyfarwyddwr ers 2017, yn Brif Swyddog Gweithredol ers 2013 ac yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau ers 2006. Bu gynt yn Brif Swyddog Gweithredol United Utilities Operational Services (UUOS). Cyn ymuno ag UUOS, treuliodd dros 20 mlynedd yn gweithio dros Ddŵr Cymru.