Mae Sioe Gogledd Cymru wedi ei chanslo am eleni, oherwydd achosion o ffliw ceffylau.

Roedd disgwyl i’r sioe amaethyddol gael ei chynnal ar gaeau Wern Ddu ar Ffordd Bethel, Caernarfon ddydd Sadwrn (Gorfdennaf 6), ond fydd hynny ddim yn digwydd..

Nid sioe geffylau yn unig ydi hi, gyda chyfle i fridwyr a’r rheiny sy’n arddangos defaid, gwartheg a ieir hefyd.

“Yn anffodus, mae’n rhaid i ni adael i bawb wybod ein bod wedi canslo, a’n bod wedi gwneud hynny ar ôl lot o drafodaethau,” meddai un o’r trefnwyr, Peter Rutherford.

“Mae hyn oherwydd yr achosion o ffliw ceffylau yng ngogledd ddwyrain Cymru sydd wedi arwain at lawer o gystadleuwyr yn tynnu allan.”

Doedd hwn ddim yn benderfyniad hawdd, meddai Peter Rutherford, sydd wedi bod wrth y gwaith gyda’i dîm o wirfoddolwyr dros y deufis diwethaf.

Fe fydd pawb sydd wedi talu yn cael eu harian yn ôl, meddai.

“O ystyried y sefyllfa, efallai y byddwn yn cynnal sioe newydd yn ddiweddarach yn y flwyddyn os byddwn yn cael digon o gefnogaeth.”