Mae Heddlu’r De yn chwilio afon yn Rhondda Cynon Taf yn dilyn adroddiadau bod person ifanc wedi cael eu gweld yn y dŵr.

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Fernhill ger Aberpennar am 5.40pm heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 1) ac mae timau arbenigol ynghyd a hofrennydd a’r gwasanaethau tan ac achub yn chwilio’r afon.

Mae ffordd yr A4059 rhwng Ysgol Uwchradd Aberpennar a chylchdro Cwmbach ynghau ar hyn o bryd tra bod y chwilio yn parhau.

Does dim rhagor o wybodaeth ar hyn o bryd.