“Mae angen i’r ffordd y mae gwledydd Prydain yn cydweithio â’i gilydd newid os yw’r Undeb am oroesi.”

Dyna yw barn y Gweinidog Brexit, Jeremy Miles, wrth iddo rybuddio y gallai Brexit heb gytundeb beryglu dyfodol y Deyrnas Gyfunol.

Mewn erthygl ar wefan y Sefydliad Materion Cymreig (IWA), dywed y Gweinidog Brexit fod y berthynas rhwng gwledydd Prydain wedi bod yn “rhincian ers tro”, gydag agwedd Llywodraeth Prydain tuag at y sefydliadau datganoledig yn dal i fod yn “hen ffasiwn”.

Mae Jeremy Miles yn rhagweld bod y cyfnod wedi Brexit yn mynd i roi mwy o straen ar y berthynas, gan gynyddu’r tensiynau oddi fewn iddi a chyfansoddiad Prydain, meddai.

“Yn fy marn i, bydd ymadawiad anhrefnus o’r Undeb Ewropeaidd yn bygwth dyfodol y Deyrnas Gyfunol,” meddai Jeremy Miles ar wefan IWA.

“Ond hyd yn oed os gwnawn ni, ryw ffordd, adael ar Hydref 31 gyda chytundeb, dyna pryd fydd y tensiynau o fewn ein cyfansoddiad a’r berthynas rhwng llywodraethau yn dod i’r amlwg.

“Bydd yr angen i ddatrys y tensiynau hynny yn fwyfwy wrth i ni symud o drafod telerau ein hymadawiad, i drafod ein perthynas gyda’r Undeb Ewropeaidd a gweddill y byd yn y dyfodol.”

“Newid agwedd am ddatganoli”

O ran newidiadau, mae Jeremy Miles yn ategu’r galwadau a wnaeth Llywodraeth Cymru ddwy flynedd yn ôl mewn dogfen bolisi o’r enw Brexit a Datganoli.

Ymhlith argymhellion y ddogfen mae’r angen am sefydlu ‘Cyngor o Weinidogion’ neu ysgrifenyddiaeth annibynnol rhwng gwledydd Prydain, yn ogystal â chonfensiwn i ystyried diwygio cyfansoddiad y Deyrnas Gyfunol.

“Pan wnaethon ni gyhoeddi Brexit a Datganoli, wnaethon ni ddim honni ein bod yn meddu ar yr atebion,” meddai Jeremy Miles.

“Fe ddywedon ni: dyma’r materion sy’n ein hwynebu o ganlyniad i Brexit; dyma’r rhesymau pam nad yw’r systemau presennol yn gweithio rhagor, a dyma ein hargymhellion ar gyfer y dyfodol.

“Mae wedi bod o gymorth wrth roi llwybr inni ganolbwyntio arno yn ystod y daith gyfansoddiadol hir hon. Ond dwy flynedd yn ddiweddarach, beth sydd wedi newid? Yr ateb cryno yw dim digon.

“Mae’r fan yr ydyn ni eisiau ei chyrraedd yn dal i fod ymhell ar y gorwel.”