Mae bwrdd gweithredol Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi cymeradwyo strategaeth newydd a fyddai’n adfywio cymunedau gwledig y sir.

Mae’r strategaeth wedi ei pharatoi yn dilyn gwaith ymchwil gan grŵp trawsbleidiol – Grŵp Gorchwyl Materion Gwledig Sir Gaerfyrddin – dros gyfnod o ddwy flynedd.

Ei phrif nod yw annog pobol ifanc i aros yn eu cymunedau, gan adfywio ardaloedd cefn gwlad y sir lle mae’r boblogaeth yn heneiddio.

Mae’r dros 50 o argymhellion sydd wedi eu paratoi gan y grŵp yn pwysleisio’r angen i greu swyddi a chyfleoedd busnes, newid y drefn gynllunio er mwyn sicrhau digon o dai fforddiadwy i deuluoedd ifanc, a gwella’r ddarpariaeth at wasanaethau digidol.

“Mae cyhoeddi’r adroddiad hwn yn garreg filltir arwyddocaol i’r awdurdod gan mai dyma’r tro cyntaf erioed y datblygwyd strategaeth bellgyrhaeddol i adfywio ein cymunedau gwledig yn Sir Gaerfyrddin,” meddai’r Cynghorydd Cefin Campbell, aelod o’r bwrdd gweithredol a chadeirydd y tasglu.

“Diwrnod i longyfarch”

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, a fu’n cydweithio â’r tasglu wrth baratoi’r argymhellion, mae heddiw yn “ddiwrnod i longyfarch” y Cyngor.

“O dderbyn a gweithredu ar argymhellion yr adroddiad ar adfywio cymunedau gwledig y sir, bydd Cyngor Sir Gaerfyrddin yn gosod esiampl i Gymru gyfan ac yn cywilyddio Llywodraeth Cymru a’i sbarduno i weithgarwch,” meddai Sioned Elin o Gymdeithas yr Iaith.

“Mae’r argymhellion yn gwbl gywir yn gosod y pwyslais ar broblem yr allfudiad o bobol ifainc o’n cymunedau gwledig.”