Bydd Gweinidog Swyddfa’r Cabinet, David Lidington, yn ymweld â Chymru heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 1) er mwyn cydnabod sut mae’r iaith Gymraeg yn “cryfhau’r Undeb”.

Mae’r daith, sydd hefyd yn nodi ugain mlynedd ers cychwyn datganoli, yn cynnwys ymweliad â phencadlys S4C yng Nghaerfyrddin ac Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg yn y Barri.

Yn ôl David Lidington, mae datganoli wedi “cryfhau gwledydd Prydain a gwella atebolrwydd” ac mae’n pwysleisio bod Llywodraeth Prydain yn awyddus i weld y sefydliadau datganoledig yn parhau.

Mae hi hefyd yn gefnogol i’r bwriad gan Lywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, meddai.

“Mae’r iaith Gymraeg yn un o’r gwaddolion gorau gwledydd Prydain, ac mae Llywodraeth Prydain wedi ymrwymo i gydnabod ei rhan a’i chyfrifoldeb i ddiogelu a datblygu’r iaith ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol,” meddai David Lidington.

Bydd David Lidington yn cael ei dywys gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns.