Fe fydd tasglu cwmni ceir Ford ym Mhen-y-Bont ar Ogwr yn cyfarfod am y tro cyntaf heddiw (Dydd Llun, Gorffennaf 1) i ystyried ffyrdd o helpu’r gweithwyr, diogelu dyfodol y ffatri ac effaith cau’r safle ar y gymuned.

Bydd 1,700 swydd yn cael eu colli ym mis Medi’r flwyddyn nesaf ar ôl i’r cwmni benderfynu cau’r safle ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Mae gweithwyr y ffatri wedi bygwth mynd ar streic mewn brwydr yn erbyn y cynlluniau i gau.

Yn arwain y cyfarfod bydd Cadeirydd y tasglu, yr Athro Richard Parry-Jones, sydd hefyd yn gadeirydd ar Fforwm Modurol Cymru.

Bu hefyd yn gweithio fel Prif Swyddog Technegol ac yn Bennaeth Gweithrediadau Ymchwil a Datblygu Byd-Eang cyn ymddeol yn 2007.

Mae’r tasglu wedi cael ei sefydlu yn bennaf i helpu gweithwyr sydd wedi eu colli eu swyddi a bydd cynrychiolwyr Ford, llywodraethau Cymru a gwledydd Prydain, swyddogion undebau ac arweinwyr cyngor sir yn rhan o’r trafod.

“Rhaid i’r effaith mae cyhoeddiad Ford wedi’i chael ac yn dal i’w chael ar y bobol sy’n byw a gweithio ym Mhen-y-bont ar Ogwr fod ym mlaen ein meddyliau a’n hymdrechion,” meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi.

“Gwelsom pa mor llwyddiannus all y fath weithgorau fod wrth helpu i gyfateb sgiliau â chyfleoedd mewn llefydd eraill yng Nghymru, ac mae’n hanfodol bwysig fod y gweithgor hwn yn enwedig yn ystyried, nid yn unig y cyfraniad sylweddol sydd gan y gweithlu a’r cyfleuster i’w gynnig.”