Mae’r heddlu wedi cynyddu eu presenoldeb yn ardal Machynlleth wrth iddyn nhw ymchwilio i adroddiadau am ddyn “yn ymddwyn yn amheus”.

Daw wedi i rieni lleol fynegi pryder ynghylch y dyn sy’n achosi ofn i’w plant mewn mannau cyhoeddus yn y dref.

Ond yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, dydyn nhw ddim wedi dod o hyd i’r dyn honedig, hyd yn hyn.

“Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi derbyn adroddiadau am ddyn sy’n ymddwyn yn amheus yn ardal Machynlleth,” meddai llefarydd ar ran y llu.

“Mae swyddogion wedi ymweld â’r lleoliad, ond ni chafodd y dyn ei weld yn ystod eu hymweliad.

“Rydym yn cynnal patrolau yn yr ardal ac mae swyddogion hefyd yn gwneud ymholiadau er mwyn ceisio dod o hyd i’r dyn.”

Yn ôl Sarjant Huw Jones, dyw hi ddim yn ymddangos bod y dyn wedi ceisio dod i gysylltiad ag unrhyw un.

“Dw i’n annog aelodau’r gymuned i beidio â gweithredu eu hunain, ond i gysylltu â’r heddlu ar unwaith ar 101,” meddai. “Fe wnawn ni ymateb.”