Mae disgwyl i hyd at 6,000 o bobol dyrru i Ffiliffest dros y penwythnos, wrth i drefnwyr yr ŵyl Gymraeg yng Nghaerffili ychwanegu noson arall i’r arlwy.

Dyma’r nawfed tro i’r digwyddiad gael ei gynnal o fewn muriau’r castell yn y dref, a’r nod yw “dathlu Cymreictod a diwylliant Cymreig yr ardal”, meddai’r trefnwyr.

Bydd y cyfan yn cychwyn heno (nos Wener, Mehefin 28) gyda gig arbennig sy’n cynnwys y Candelas, Gwilym, Wigwam, Anni Glass a’r Sybs – y tro cyntaf i gig nos Wener fod yn rhan o’r arlwy.

Ac mae’r arlwy yn swmpus o fewn muriau’r castell yfory.

“Bydd cyfle i gymryd rhan mewn llawer o weithgareddau gwahanol, fel chwaraeon, celf a chrefft, ardal traeth a pherfformiadau byw gan gwmni Mewn Cymeriad,” meddai Lowri Jones o Fenter Caerffili, trefnwyr yr ŵyl.

“Bydd sgiliau syrcas hefyd yn digwydd ar draws y safle, a bydd nifer o stondinau crefftau a bwyd. Ac wedyn, yn neuadd fawr y castell, bydd gyda ni gyfle i blant gymryd rhan mewn gemau fideo a gemau retro gwahanol a hefyd gystadleuaeth comig côn…

“Roedd gyda ni ryw 5,5000 [o ymwelwyr] y llynedd, felly mae wedi tyfu’n sylweddol o’r cychwyn pan oedd gyda ni ryw 1,000 o bobol,” meddai Lowri Jones ymhellach.

“Rydyn ni’n disgwyl rhyw 5,000-6,000 yn ystod y dydd yfory.”