Mae busnesau i fyny ac i lawr Cymru yn dweud y gall eu helw fwy na dyblu ar ddiwrnodau poeth o gymharu â diwrnodau pan mae’r tywydd yn ddiflas.

Yn ôl rhagolygon y tywydd, fe all y tymheredd godi i hyd at 26⁰C mewn rhannau o Gymru heddiw (dydd Gwener, Mehefin 28), er bod rhagolygon o 32⁰C ar gyfer dinas Llundain a 40⁰C mewn rhai rhannau o gyfandir Ewrop.

Mae disgwyl i’r tywydd braf barhau am weddill y penwythnos, er yn ychydig yn oerach.

Tywydd Hufen Iâ

Yn ôl un busnes gwerthu hufen iâ yn nhref Pwllheli, mae yna wahaniaeth mawr wedi bod yn nifer y cwsmeriaid yr wythnos hon wrth i’r tywydd gynhesu.

Mae Hufen Iâ Glasu yn cynhyrchu eu hufen iâ eu hunain ar fferm laeth yn ardal Edern, ac yn ogystal â’i werthu yn eu caffi ym Mhwllheli, maen nhw hefyd yn ei dosbarthu i fusnesau ledled Gwynedd – o Ynys Enlli i Ddolgellau.

“Rydan ni’n brysur beth bynnag efo hufen iâ, bob ffordd, ond gyda’r tywydd braf yma mae pobol fel petaen nhw’n mynd i’r traeth yn ystod y dydd, ond wedyn o dri o’r gloch ymlaen maen nhw i gyd yn fa’ma yn cael eu hufen iâ,” meddai Nan Williams, rheolwraig caffi Hufen Iâ Glasu ym Mhwllheli.

“Rydan ni’n gneud ein hufen iâ yn lleol, achos busnes lleol ydan ni ac rydan ni’n gneud hufen iâ efo llaeth, ac mae pobol yn gwybod am hynna hefyd.”

… a chwrw

I lawr yn y de yng Ngheredigion wedyn, mae tafarn y Ship Inn yn Nhresaith, sy’n gyrchfan poblogaidd ar gyfer twristiaid, yn dweud y gall gwerthiant cwrw a bwyd fod “dair gwaith yn fwy” ar ddiwrnodau braf.

Dywed Fraser Griffiths, un o weithwyr y dafarn, fod diwrnod fel ddoe (dydd Iau, Mehefin 27) wedi gweld cynnydd o 54% mewn gwerthiant o gymharu â’r un diwrnod y llynedd, a oedd yn llai ffafriol o ran tywydd.

Ond er ei fod yn croesawu prysurdeb y tywydd braf, mae’n dweud bod cynllunio ar ei gyfer yn gallu bod yn her ar adegau.

“Mae’n anodd rhagweld,” meddai Fraser Griffiths. “Fe allech chi graffu ar adroddiadau’r tywydd gymaint ag y gallech chi, ond fe all y tywydd fod yn hollol wahanol ar yr arfordir o’r hyn sy’n cael ei ddweud yn yr adroddiadau…

“Dydyn ni byth wedi gwerthu mas [o gwrw] yn llwyr, ond yn sicr rydyn ni wedi mynd yn brin o ambell gwrw, fel yr êls hafaidd a’r seidrau. Ambell waith, rydyn ni’n mynd trwy bareli cyfain mewn diwrnod yn rhwydd.

“Fe allwn ni werthu rhwng 90 a bron 200 peint o ryw un cwrw penodol mewn diwrnod, ambell waith.”