Mae Maer Caernarfon yn “reit siomedig” bod y Tywysog Charles ddim yn ymweld â’r dref yr wythnos nesaf.

Mae hi’n hanner canrif ers Arwisgo Charles yn Dywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon, ac i nodi’r achlysur fe fydd yn ymweld â llu o lefydd yng Nghymru gan gynnwys Trawsfynydd a Dolgellau.

Ond ni fydd yn tywyllu’r dref sy’n Fwrdeistref Frenhinol ers 1963, ac mae hynny’n destun siom i Faer Caernarfon.

“Dw i’n reit siomedig bod o ddim,” meddai’r Cynghorydd Tudor Owen o Blaid Cymru wrth golwg360.

“Ond efallai basa fo yma am ddim ond rhyw awr ar y mwyaf. Dw i ddim yn dweud. A fyddai llawer o bobol yn troi allan i hynny? Dw i ddim yn gwybod…

“Buasai rhai yn sicr ddim yn mynd allan o’u ffordd i’w weld o. Dw i ddim yn amau y basa’ pobol yn mynd. Ond ella byddai lot ddim.”

Mae’r Maer yn dweud bod Caernarfon wedi elwa’n economaidd o’r Arwisgiad tros y blynyddoedd ers 1969.

“Mae pobol yn dod i Gaernarfon jest i weld y castell lle oedd yr Arwisgiad,” meddai Tudor Owen sy’n credu y byddai’n “dda i’r economi” pe bai Arwisgiad arall yn cael ei gynnal yno.

Atgof o’r Arwisgiad

Roedd Tudor Owen ei hun yn y dref ar ddiwrnod yr Arwisgiad yn 1969, ac mae’n cofio Caernarfon yn orlawn bryd hynny.

Mae’n cydnabod y bu cryn wrthwynebiad gan rai, ond mae’n mynnu na fyddai pethau “ddim mor ddrwg â hynny” pe bai Tywysog Charles yn ymweld eto’r wythnos nesaf.

Mae’n wfftio’r syniad bod Tywysog Charles yn ofni dychwelyd i Gaernarfon, ac mae’r ffaith fod mab Brenhines Lloegr yn dod mor agos â Dolgellau a Thrawsfynydd yn destun dryswch iddo.

“Mae mwy o bobol i lawr ffordd yna, efallai, sy’n fwy yn erbyn y teulu brenhinol,” meddai Tudor Owen.

“Buaswn i’n meddwl bod mwy o bobol y ffordd acw [sy’n erbyn y Tywysog Charles] nac sydd yng Nghaernarfon ei hun.

“Os fasa’ yna brotestio yma, dw i’n sicr nad pobol Caernarfon fasen nhw i gyd. Canran bychan iawn o’r rheiny fydda nhw. Basen nhw’n dod o du allan i Gaernarfon.”

Ymateb Clarence House

Bydd y Tywysog Charles yn dod i Gymru rhwng Gorffennaf 1 a Gorffennaf 5, gan ddechrau yn y de a gorffen yn y gogledd.

Yn ystod ei daith yn y de bydd yn ymweld â Chaerdydd, Llanymddyfri, yr Ardd Fotaneg yn Llanarthne, ac Aberhonddu. Tua diwedd ei drip bydd yn ymweld â’r Ysgwrn, cartref Hedd Wyn, ger Trawsfynydd.

Pan ofynnodd golwg360 pam nad oedd y Tywysog yn dod i dref ei arwisgo yn 1969, dywedodd ei lefarydd  “nad oedd [ymweld â Chaernarfon] erioed yn rhan o gynlluniau eleni”.