Mae mwy o bobol yn lladd eu hunain yng Nghymru nag yn Lloegr, ac mae’n ymddangos bod dynion mewn swyddi lefel sgiliau isel mewn mwy o berygl o ladd eu hunain hefyd.

Daw’r wybodaeth gan y Swyddfa Ystadegau sydd wedi bod yn dadansoddi’r ffigyrau sydd ar gael ynghylch hunanladdiad.

Yng Nghymru yn 2017 roedd 13.2 yn lladd eu hunain am bob 100,000 o’r boblogaeth.

Yn Lloegr, y ffigwr ar gyfer yr un flwyddyn oedd 9.2 am bob 100,000.

Ond roedd mwy wedi gwneud diwedd ar eu hunain yn yr Alban – 13.9 am bob 100,000 o’r boblogaeth.

Roedd y risg o hunanladdiad 71% yn uwch ymysg dynion mewn swyddi sgiliau isel yng Nghymru, o gymharu â’r cyfartaledd ar draws  gwledydd Prydain.

O ran oedran, dynion rhwng 25 a 44 oed sydd fwyaf tebygol o ladd eu hunain.