“Dw i ddim yn gwybod sut y bydda i’n talu ffermwyr y flwyddyn nesaf” – Dyna mae Gweinidog Materion Gwledig Llywodraeth Cymru wedi ei gyfaddef.

Ar hyn o bryd mae cymorthdaliadau ffermwyr Cymru yn cael eu hariannu gan arian o’r Undeb Ewropeaidd, ond dros y misoedd nesaf mae disgwyl i wledydd Prydain adael yr undeb.

Mae ansicrwydd yn parhau tros sut fydd amaeth yn cael ei ariannu wedi hynny, ac mae Lesley Griffiths wedi ceryddu Llywodraeth San Steffan am fethu bod yn glir ar y mater.

“Does gen i ddim syniad beth yw’r gronfa ariannu ar hyn o bryd,” meddai wrth golwg360. “Dw i’n derbyn dros €300m [£268m] o Frwsel ar hyn o bryd i dalu ffermwyr.

“Dw i ddim yn siŵr o le daw’r cyllid [a fydd yn cymryd lle hynna]. Does neb o Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn medru dweud wrtha’ i.

“Does dim gyda ni gweinidog o’r Trysorlys yng [nghyfarfodydd Defra]. Rydym wedi gofyn am hynna dro ar ôl tro. Mae’n llanast llwyr.”

Cyfarfodydd

Mae Lesley Griffiths yn mynychu cyfarfodydd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) San Steffan.

A gan dynnu sylw at yr ymgeisydd aflwyddiannus am arweinyddiaeth y Torïaid, Michael Gove; mae’n awgrymu bod dryswch Brexit bellach yn effeithio’r cyfarfodydd yma.

“Yn anffodus, doedd ein cyfarfod ddydd Llun ddim yn gynhyrchiol o gwbl,” meddai.

“Roedd Michael Gove [Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig y Deyrnas Unedig] i fod i gadeirio’r sesiwn ond mi dynnodd allan.

“Felly bu’n rhaid i Robert Goodwill – ei Is-ysgrifennydd Seneddol – gadeirio’r sesiwn.”