Mae Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru wedi derbyn £38,000 gan y Loteri Genedlaethol er mwyn datblygu prosiect newydd a fydd yn “casglu ac yn cofnodi” enwau lleoedd.

Bwriad ‘Llwybrau’ fydd codi ymwybyddiaeth o werth enwau lleoedd ac annog pobol i gofnodi’r enwau hynny er mwyn eu diogelu.

Dros y ddwy flynedd nesaf, gobaith y gymdeithas yw cyflawni hyn ar lefel lleol a chenedlaethol drwy drefnu sgyrsiau, teithiau cerdded ac arddangosfeydd.

Mae’r cyfan yn adeiladu ar y prosiect blaenorol, ‘Gwarchod’, a dderbyniodd arian gan y Loteri Genedlaethol yn 2013.

“Mae’r prosiect yn berthnasol i Gymru gyfan a bydd croeso i bawb a all wneud cyfraniad,” meddai Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru. “Edrychwn ymlaen at gydweithio ag unigolion, cymdeithasau lleol a sefydliadau cenedlaethol.

“Wrth wneud hyn byddwn yn estyn ein gweithgarwch i gylchoedd newydd a fydd yn cynnwys y to hŷn, pobol fregus eu hiechyd, a thrigolion ardaloedd llai breintiedig.”