Fe fydd Twnelau Bryn-glas ar draffordd yr M4 yn cau nos fory (Dydd Mercher, Mehefin 26) ar gyfer gwaith cynnal a chadw.

Bydd yn rhaid i’r draffordd gael ei chau i draffig i’r ddau gyfeiriad o 8 y nos tan 6 y bore canlynol (Dydd Iau, Mehefin 27) tra bydd y gwaith yn mynd yn ei flaen.

Yn ogystal â gwaith cynnal a chadw, fe fydd y gwasanaethau brys yn cynnal ymarferion ar gyfer achub pobol o dwnelau.

Fe fydden nhw’n cychwyn ar eu hymarfer o Orsaf Dân Malpas ac yn gwneud eu ffordd i’r twnelau cyn gynted â phosibl ar ôl cau’r rhan honno o’r ffordd.

Y bwriad yw rhoi cyfle i’r heddlu, timau rheoli traffig, ambiwlansys, a’r gwasanaeth tân ymarfer wrth gydgysylltu mewn argyfwng.

“Mae’n bwysig fod holl drigolion yr ardal yn ymwybodol o’r gwaith cynnal a chadw arferol a fydd yn golygu bod y ffordd ynghau, a hefyd unrhyw darfu posibl y gallai’r ymarfer gan y gwasanaethau brys ei achosi,” meddai’r Gweinidog Trafnidiaeth, Ken Skates.

“Mae sesiynau hyfforddi ymarferol ar gyfer ein gwasanaethau brys yn gwbl hanfodol er mwyn sicrhau eu bod yn barod i ymateb i wahanol argyfyngau.”