Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o beidio â gwneud mwy i sicrhau dyfodol ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Yn ôl arweinydd y blaid doedd tasglu a gafodd ei sefydlu i ddiogelu’r safle a swyddi heb gyfarfod am naw mis cyn y cyhoeddiad bod y ffatri yn cau.

Fe gyhoeddodd cwmni ceir Ford ar Fehefin 5 ei fwriad i gau’r ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr gan olygu bod 1,700 swydd yn y fantol.

“Roedd Llywodraeth Cymru yn gwybod ym mis Ionawr eleni y gallai’r ffatri wynebu colled bosibl o dros fil o swyddi. Mae’n anghredadwy felly na lwyddodd gweithgor Llywodraeth Cymru gwrdd â Ford tan ddau fis yn ddiweddarach,” meddai Adam Price.

“Ar ben hynny, roedd bwlch anferth o naw mis rhwng dau gyfarfod y gweithgor. Mae hyn yn codi cwestiynau difrifol o ran beth yn union roedd y Llywodraeth yn ei wneud yn ystod y cyfnod hollbwysig hwn lle’r oedd dyfodol y safle dal i fod yn y fantol.

“Mae hyn yn awgrymu diffyg cyfrifoldeb ac mae’n symptomaidd o blaid sydd wedi cwympo i gysgu wrth y llyw.”

 “Bwlch anferth”

Yn 2017, cafodd tasglu ei sefydlu i warchod swyddi a diogelu’r safle, a Llywodraeth Cymru oedd yn cadeirio’r grŵp.

Roedd yn cynnwys cynrychiolaeth o Ford Europe, Ford UK, Swyddfa Cymru, Adran Fusnes Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth gwledydd Prydain, Fforwm Moduro Cymru, ac Undeb Unite.

Ond rhwng Gorffennaf 9 y llynedd a Mawrth 18 eleni, ni chafodd cyfarfod ei chynnal gan y tasglu.

“Pam wnaethon nhw ganiatáu i naw mis fynd heibio, pan ellid fod wedi dod o hyd i ateb er mwyn cadw’r safle ar agor?” meddai Adam Price.

“Ymosodiad sinigaidd”

Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru mewn datganiad: “Mae hwn yn ymosodiad sinigaidd sydd ddim, mewn unrhyw ffordd, yn adlewyrchu’r amser a’r ymdrech a roddwyd i gefnogi ffatri Ford Pen-y-bont ar Ogwr a’i weithlu gan Lywodraeth Cymru.

“Mae Gweinidogion Cymru a’u swyddogion wedi cyfarfod â chynrychiolwyr o Ford yn rheolaidd iawn dros y ddwy flynedd ddiwethaf i chwilio am opsiynau masnachol mewnol ar gyfer y safle.”

Ychwanegodd:  “Mae’r Gweinidog dros yr Economi [Ken Skates] a’r Prif Weinidog [Mark Drakeford] wedi cael cyfres o drafodaethau gyda Ford, undebau ac eraill am y safle yn ogystal â chodi’r mater yn gyson mewn cyfarfodydd a thrafodaethau gyda Gweinidogion Llywodraeth gwledydd Prydain.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud popeth i gadw safle Pen-y-bont ar Ogwr ar agor – gan gynnwys gwneud buddsoddiad sylweddol yn y safle a’i weithlu – ac nid yw’n ymddiheuro o gwbl am barhau i wneud hynny er mwyn cadw swyddi a chynhyrchu o ansawdd da yn yr ardal. ”