Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar gynigion a fydd yn mynd i’r afael â pheryglon llifogydd ac erydu ar yr arfordir.

Daw’r cynigion ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi fis Hydref y llynedd y bwriad i fuddsoddi dros £350m er mwyn ceisio atal llifogydd ac erydiad arfordirol yn y dyfodol.

Yn ôl Gweinidog yr Amgylchedd, Lesley Griffiths, bydd y strategaeth newydd yn “helpu i feithrin cydnerthedd, yn rhoi blaenoriaeth i fuddsoddi yn y cymunedau sydd yn y perygl mwyaf, ac yn golygu y bydd llai o bobol yn wynebu peryg.”

Y cynigion

Ymhlith y cynigion sydd o dan ystyriaeth yn yr ymgynghoriad, mae:

  • Gwella’r mynediad at wybodaeth “glir a chywir”, a fydd yn arwain at benderfyniadau “mwy trylwyr”;
  • Codi ymwybyddiaeth a helpu cymunedau i adeiladau eu cydnerthedd eu hunain;
  • Rhoi blaenoriaeth i gymunedau sy’n wynebu’r peryg mwyaf wrth fuddsoddi;
  • Atal pobol rhag gorfod wynebu peryglon drwy gynnig cynghorion ar gynllunio a chefnogi rheolau newydd ar ddraenio mwy cynaliadwy;
  • Sicrhau ymateb mwy effeithiol i argyfyngau.

“Mae’n buddsoddiad yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran rheoli’r risg sy’n wynebu cartrefi a busnesau,” meddai Lesley Griffiths.

“Fodd bynnag, o gofio bod y newid yn yr hinsawdd yn cael mwy a mwy o effaith, rhaid inni gyfleu’n glir i bobol y neges na allwn ni atal pob risg o ran llifogydd na phob risg i’r arfordir.

“Mae gan bawb ran i’w chwarae ac mae angen strategaeth hirdymor a mesurau priodol arnon ni i’n helpu i fynd i’r afael â’r heriau sy’n gysylltiedig â’r broblem fyd-eang hon.

Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau heddiw (dydd Llun, Mehefin 24) ac yn dod i ben ymhen 12 wythnos ar Fedi 16.