Mae ymgyrch codi arian ar gyfer Gŵyl Fwyd Llanbed yn argoeli’n dda wedi i drefnwyr yr ŵyl orfod gofyn am help y gymuned ar ôl i filoedd o bunnoedd “ddiflannu”.

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i ddiflaniad yr arian – mae golwg360 yn deall fod swm o tua £5,000 wedi mynd.

Cafodd pwyllgor arbennig ei sefydlu ar y cyd rhwng rhai o brif sefydliadau’r dref er mwyn gwneud iawn am y diffyg.

Hyd yn hyn, maen nhw wedi llwyddo i dderbyn tua £4,000 o’r gymuned leol, yn ogystal â grant o £5,000 gan y Cyngor Tref ar gyfer cynnal yr ŵyl ar Orffennaf 27.

“Hyderus”

Yn ôl maer y dref, Rob Phillips, mae angen rhwng £10,000 a £12,000 er mwyn cynnal yr ŵyl mewn ffurf “sylfaenol”, ond mae’n gobeithio y bydd modd codi hyd at £15,000 gyda chymorth grantiau ychwanegol.

“Dydyn ni ddim cweit wedi codi digon ar gyfer cynnal yr ŵyl sylfaenol,” meddai wrth golwg360. “Ond dw i’n hyderus, o’r ffordd mae pethau wedi mynd a’r ffordd mae pobol wedi ymateb, y byddwn ni yn cyrraedd y nod yna.

“Ac os gawn ni grantiau ychwanegol, bydd hynny’n golygu wedyn y bydd modd inni wneud pethau ychwanegol.”

Dau ymchwiliad i ddiflaniad arian

Roedd yr heddlu eisoes yn ymchwilio i un achos o dwyll yn ymwneud â mudiad gwirfoddol yn Llanbed – mae un o swyddogion yr heddlu wedi ei arestio a’i rhyddhau ar fechnïaeth tros ddiflaniad tua £16,000 o fudiad Y Ford Gron yn y dref.

Mae’r dyn hwnnw – y swyddog heddlu cymunedol, Ryan Jones – wedi ei atal o’i waith wrth i’r ymchwiliad barhau.

Fe gadarnhaodd yr heddlu bod “yr ymchwiliad i’r unigolyn yn parhau”.

Mewn datganiad ynglŷn â’r Ŵyl Fwyd, fe ddywedon nhw: “Rydyn ni’n ymchwilio i adroddiad o ddwyn o Ŵyl Fwyd Llanbed. Mae’r ymchwiliad yn parhau.”

Dyw’r heddlu ddim wedi cysylltu’r ddau achos.

Casglu arian

Mae’r pwyllgor ar y cyd yn cynnwys cwmni’r Ŵyl Fwyd ei hunCyngor Tref Llanbed, y Siambr Fasnach, a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant – ar safle’r brifysgol y mae’r wyl yn cael ei chynnal.