Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cadarnhau mai Nia Wyn Jones o’r Alban fydd ‘Arweinydd’ y Cymry o dramor yn Sir Conwy eleni.

Roedd ei thad, y digrifwr Gari Williams, yn enedigol o Lanrwst, sef lleoliad y brifwyl ym mis Awst.

Yn wreiddiol o Fae Colwyn, graddiodd Nia Wyn Jones o’r Coleg Normal yn ninas Bangor cyn mynd i weithio ym myd teledu gyda chwmni Antena ar y rhaglen Uned 5.

Symudodd i Dorking yn Swydd Surrey am gyfnod, cyn dychwelyd i ogledd Cymru, gan briodi a rhoi genedigaeth i’w mab, Aaron Emyr.

Dechreuodd y teulu deithio ymhellach gan fod gŵr Nia Wyn Jones yn gweithio yn y diwydiant olew. Eu cartref cyntaf oedd Okpo yn Ne Corea ac yna Singapore, lle bu’r Gymraes yn Llywydd Cymdeithas Gymraeg Dewi Sant Singapore am bron i dair blynedd.

Mae’r teulu bellach wedi dychwelyd i wledydd Prydain ac wedi ymgartrefu yn ninas Aberdeen.

Bydd Nia Wyn Jones yn cael ei hanrhydeddu mewn seremoni ar gychwyn Cymanfa Ganu’r Eisteddfod Genedlaethol ar Awst 4.