Mae aelodau’r Blaid Geidwadol yn etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed wedi dewis Chris Davies yn ymgeisydd yn yr isetholiad yno.
Bydd isetholiad yn cael ei gynnal wedi i dros 10% o drigolion yr etholaeth arwyddo deiseb yn galw ar Chris Davies i gamu o’r neilltu fel Aelod Seneddol.
Ym mis Mawrth, cafwyd Chris Davies yn euog o wneud ceisiadau ffug am dreuliau. Cafodd y ddeiseb adalw ei harwyddo gan 10,005 o bobol.
Mae Jane Dodd wedi cael ei chadarnhau’n ymgeisydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, a Tom Davies ar ran y Blaid Lafur.
Does dim dyddiad wedi ei bennu ar gyfer yr isetholiad.