Mae pedwar o bobol yn yr ysbyty ag anafiadau i’r pen yn dilyn digwyddiad yn y Fenni.
Cafodd Heddlu Gwent eu galw i Stryd Frogmore am oddeutu 5.40 neithiwr (nos Sadwrn, Mehefin 22).
Cafodd pump o bobol eu harestio ar amheuaeth o ymosod ac o anhrefn treisgar.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101.