Y bariton Andrei Kymach o’r Wcráin yw Canwr y Byd Caerdydd y BBC 2019.

Fe berfformiodd e ddarnau gan Bizet, Rachmaninov a Donizetti yn y rownd derfynol yn Neuadd Dewi Sant neithiwr, gan gipio’r brif wobr o £20,000.

Derbyniodd ei dlws gan y Fonesig Kiri Te Kanawa, y gantores y mae ei sefydliad wedi cyfrannu at y wobr eleni.

Fel rhan o’i wobr, fe fydd y canwr buddugol hefyd yn cael perfformio yn Neuadd y Frenhines Elizabeth yng nghanolfan Southbank yn Llundain.

Cafodd ei ddewis gan reithgor oedd yn cynnwys Syr David Poutney, Jose Cura, y Fonesig Felicity Lott, Frederica von Stade a Wasfi Kani.

Curodd e Sooyeon Lee, Mingjie Lei, Guadalupe Barrientos a Patrick Guetti yn y rownd derfynol.

‘Ar ben fy nigon’

“Dw i ar ben fy nigon o fod wedi ennill Canwr y Byd Caerdydd y BBC 2019,” meddai’r enillydd.

“Yn llythrennol, dw i’n gwireddu breuddwyd.

“Galla i gofio gwylio’r gystadleuaeth pan o’n i’n ifanc iawn, a faswn i erioed wedi meddwl y gallwn i gymryd rhan ryw ddiwrnod, heb sôn am ennill.

“Hoffwn ddiolch i’r rheithgor a phawb sydd ynghlwm wrth y gystadleuaeth am fod mor gefnogol a chroesawgar.”

Gwobr Cynulleidfa’r Fonesig Joan Sutherland

Yn ogystal â’r brif wobr, aeth Gwobr Cynulleidfa’r Fonesig Joan Sutherland i Katie Bray o Loegr.

Derbyniodd hi’r wobr gan Richard Bonynge, cymar y ddynes sy’n benthyg ei henw i’r wobr, er cof am Dmitri Hvorostovsky, Canwr y Byd yn 1989.

“Mae pob un o’r 20 cystadleuydd yn enillwyr am eu bod wedi cyrraedd y rowndiau terfynol ac am greu cymaint o argraff ar bawb,” meddai David Jackson, Cyfarwyddwr Artistig Canwr y Byd Caerdydd y BBC.

“Ond dim ond un all hawlio coron yr enillydd, ac mae Andrei Kymach yn gwbl haeddiannol o’r wobr am ein swyno’n llwyr ac am y gallu anhygoel i gysylltu gyda’r gynulleidfa.

“Mae pawb sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth arbennig hon yn edrych ymlaen at ddilyn ei hanes dros y blynyddoedd sydd i ddod.”

Andrei Kymach

Cafodd Andrei Kymach ei eni yn Vinnitsa, ac fe astudiodd e Athroniaeth ym Mhrifysgol Genedlaethol Shevchenko yn ei famwlad rhwng 2007 a 2010.

Fel canwr yng nghôr yr eglwys yn oedolyn y dechreuodd e ymddiddori mewn cerddoriaeth, ac fe gafodd ei ysbrydoli gan ei ddarpar wraig i astudio cerddoriaeth, a hithau’n hyfforddwraig llais.

Aeth i astudio yn Academi Gerddoriaeth Genedlaethol Kyiv, gan fynd yn ei flaen i ymuno â rhaglen Theatr Bolshoi Rwsia.

Daeth ei ymddangosiad theatrig cyntaf yn 2017, wrth iddo chwarae’r cymeriad Don Carlos yn The Stone Guest gan Dargomyzhsky.

Y flwyddyn ganlynol, daeth ei ymddangosiad cyntaf yn Liceu Barcelona, wrth iddo chwarae Syr Riccardo Forth yn I puritani.

Mae e hefyd wedi chwarae’r cymeriadau yr Arglwydd Enrico Ashton (Lucia di Lammermoor), a Don Giovanni.