Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i farwolaeth sydyn dynes 48 oed yn Aberystwyth nos Iau (Mehefin 20).

Cawson nhw eu galw i eiddo yn Rhydybont, Penparcau toc cyn 9 o’r gloch y nos.

Dydy hi ddim yn glir sut y bu farw’r ddynes, ac mae archwiliad post-mortem wedi’i gynnal.

Mae ei theulu wedi cael gwybod, ond dydy’r heddlu ddim wedi cyhoeddi ei henw.

Cafodd dyn 40 oed ei arestio ar amheuaeth o ymddwyn yn groes i orchymyn ataliol, a’i garcharu am 16 wythnos.