Mae’r heddlu’n apelio am dystion i ymosodiad difrifol yng nghanol dinas Abertawe fore dydd Sadwrn diwethaf (Mehefin 15).

Fe ddigwyddodd am oddeutu 11.25yb ger siop Primark yn Sgwâr y Santes Fair, ac mae dyn mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Bu’n rhaid i ddau ddyn arall dderbyn triniaeth feddygol, a chafodd dau ddyn, 21 a 33 oed, eu harestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol, ac maen nhw bellach ar fechnïaeth.

Mae’r heddlu’n awyddus i siarad â thri o bobol yn yr ardal ar y pryd.

Roedd y dyn cyntaf yn gwisgo siaced ledr ddu, a’r ail ddyn yn gwisgo gillet gwyn.

Gyrrwr tacsi yw’r trydydd, ac roedd e yn ei gerbyd ger y fan lle digwyddodd yr ymosodiad.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu’r De ar 101.