Mae’r gŵr fu’n arwain ymgyrch fomio yn y 1960au, yn y cyfnod cyn Arwisgo Charles yn Dywysog Cymru yng Nghaernarfon, yn dweud y byddai wedi gallu lladd mab Brenhines Lloegr ar y pryd.

Ond mae John Jenkins yn dweud iddo ef ei hun dawelu galwadau i ladd y Tywysog, am nad oedd yn gweld sut y gallai gweithred o’r fath helpu ei achos.

Yn 1964 fe gafodd John Jenkins ei recriwtio i fod yn rhan o griw Mudiad Amddiffyn Cymru (MAC), a bu yn arwain ymgyrch fomio i geisio tarfu ar yr Arwisgo yn 1969.

Bu’n gyfrifol am baratoi a gosod bomiau oedd yn targedu adeiladau Llywodraeth Prydain a phibellau dŵr, yng Nghymru a Lloegr.

Fe gafodd ei ddal gan yr heddlu a’i garcharu am ddeng mlynedd yn 1970.

Mewn llyfr newydd sy’n cael ei lansio yn Wrecsam yfory, mae John Jenkins yn mynnu y gallai fod wedi targedu’r Tywysog Charles.

Un o elfennau mwyaf trawiadol ei stori yw iddo gynnal ymgyrch fomio MAC tra’n gwasanaethu fel milwr ym myddin Prydain ar yr un pryd.

Ar ddiwrnod yr Arwisgo yn 1969 roedd John Jenkins yng Nghaernarfon, wedi ei ddrafftio yno gyda milwyr eraill i warchod y Tywysog Charles.

‘Mi fydden ni wedi medru ei ladd o,’ meddai John Jenkins yn y llyfr newydd.

‘Yn un peth, roeddwn i yn Sarjant yn y British Army Dental Corps, ac ar ddyletswydd yng Nghaernarfon y diwrnod hwnnw.

‘Mi fyddwn i wedi medru cario reiffl a’i saethu yn y fan a’r lle pe bawn i eisiau.’

‘Tawelu’r dyfroedd’

Ond roedd John Jenkins yn erbyn lladd y Tywysog, ac fe gafodd waith yn darbwyllo aelodau eraill o MAC i feddwl yr un fath.

‘Un peth nad sy’n hysbys yw mai un o’r brwydrau caletaf a gefais erioed oedd gydag ein pobol ni ein hunain,’ meddai John Jenkins.

‘Fe dreuliais i lawer o amser yn yr wythnosau cyn yr Arwisgo yn teithio o gwmpas yn un o geir civilian y Fyddin, yn tawelu’r dyfroedd.

‘Roedd pobol yn mynd yn fwyfwy, wel, anwaraidd wrth i’r seremoni agosáu.

‘Roedden nhw yn dweud: “Mae’r ateb yn syml. Does dim modd cael Arwisgiad os ydan ni’n ei ladd o”.

‘A byddwn i yn gorfod pwysleisio, “Oce, ond beth ddiawl wnawn ni gyflawni yn wleidyddol os wnawn ni hynny? Dim byd”.’

Arestio a charchar

Pedwar diwrnod wedi’r Arwisgo, fe gafodd bachgen 10 oed o Loegr ei anafu’n ddrwg wedi iddo sefyll ar fom yng Nghaernarfon.

Roedd Ian Cox ar wyliau yn y dref, ac wedi sathru bom oedd i fod i ffrwydro a tharfu ar seremoni’r Arwisgo.

Yn dilyn y digwyddiad yma fe gynyddodd yr heddlu eu hymdrechion i ddal aelodau Mudiad Amddiffyn Cymru, ac ym mis Tachwedd 1969 fe gafodd John Jenkins ei arestio.

Fe gafodd ddeng mlynedd o garchar yn 1970.

Mae cofiant iddo, John Jenkins: The Reluctant Revolutionary? gan yr hanesydd Wyn Thomas, yn cael ei lansio yn siop lyfrau Waterstones yn Wrecsam yfory am bedwar y p’nawn.