Mae plismones a geisiodd celu ei chysylltiad ag aelod o’r rheithgor mewn achos llofruddiaeth wedi cael ei diswyddo.

Roedd y Ditectif Gwnstabl Rebecca Bryant o Heddlu De Cymru wedi dweud celwydd am ei pherthynas â Laura Jones, sef cariad ei mab, yn ystod yr achos llys yn 2016.

Daeth y gwir i’r amlwg ar ôl i Dwayne Edgar, Jake Whelan a Robert Lainsbury, gael eu dedfrydu i oes o garchar am ladd Lynford Brewster, 29, yn ninas Caerdydd.

Fe lwyddodd y tri dyn i gael diddymu eu dedfrydau yn y Llys Apêl o ganlyniad, cyn cael eu hail-garcharu am oes mewn achos arall.

‘Camymddygiad dybryd’

Roedd Rebecca Bryant, a oedd yn swyddog cefnogi i deulu Lynford Brewster, wedi anfon negeseuon at Lauren Jones ar drothwy’r achos gwreiddiol yn ei gorchymyn i beidio â datgelu’r cysylltiad rhwng y ddwy ohonyn nhw.

Roedd hefyd wedi dweud bod gan y cynorthwyydd dosbarth yr hawl i golli diwrnod o’r achos oherwydd bod ganddi apwyntiad gwallt.

Ar ddiwedd y gwrandawiad tri diwrnod yng Nghaerdydd, dywedodd cadeirydd y panel disgyblu, John Griffiths QC, eu bod nhw wedi penderfynu diswyddo’r blismones, er gwaethaf y galwadau yn erbyn hynny.

Daeth y panel i’r canlyniad bod dau o’r honiadau yn erbyn Rebecca Bryant yn enghreifftiau o “gamymddygiad dybryd”, a bod pob un o’r tri chyhuddiad yn mynd yn groes i safonau ymddygiad proffesiynol.

Doedd y panel ddim yn ystyried y cyhuddiad oedd yn ymwneud â’r apwyntiad gwallt yn enghraifft o gamymddwyn dybryd.

Yn ystod y gwrandawiad, dywedodd mam Lynford Brewster, June Whittaker, ei bod hi’n ystyried erlyn Heddlu De Cymru oherwydd y loes a achoswyd iddi wrth orfod wynebu ail achos llofruddiaeth ei mab.