Mae’r Gweinodog Dros Addysg a Sgiliau Leighton Andrews wedi galw ar Gadeirydd Cyngor Prifysgol Cymru, D Hugh Thomas, i ystyried ei sefyllfa “er lles y sefydliad ac er lles Cymru”.

Mae’n dilyn honiadau wythnos diwethaf, ynghylch rhai sefydliadau y caiff eu cymwysterau eu dilysu gan  Brifysgol Cymru.

Dywedodd Leighton Andrews: “Nid ar chwarae bach rydw i’n dweud hyn, ond ni allwn gael cyfres o achosion o gamreoli yn tanseilio’r sector addysg uwch cyfan yng Nghymru.

“Mae’r cyhoeddusrwydd andwyol parhaus ynghylch Prifysgol Cymru, yn niweidiol nid yn unig i’r sefydliad ond i’r sector addysg uwch yng Nghymru ac i Gymru gyfan.

“Galwaf felly ar Gadeirydd Cyngor Prifysgol Cymru i ystyried ei sefyllfa er lles y sefydliad ac er lles Cymru.”

Ychwanegodd bod gan Brifysgol Cymru hanes hir a disglair ond yn y blynyddoedd diwethaf, mae “enw da’r Brifysgol a fu unwaith yn uchel ei pharch wedi profi sawl ergyd.”

‘Methiannau niferus’

“Cafodd Prifysgol Cymru ei beirniadu dro ar ôl tro, a hynny dros gyfnod o flynyddoedd bellach, am fethiannau niferus o ran y modd y caiff y sefydliad ei lywodraethu.

“Mewn datganiadau blaenorol gennyf, dyddiedig 21 Mawrth a 21 Mehefin 2011, rhoddais wybod i’r Aelodau am y pryderon parhaus a difrifol ynghylch trefniadau dilysu allanol y Brifysgol yn ogystal â’i ffordd o reoli ei mentrau cydweithredol.

“Rydw i wedi galw lawer gwaith ar Gorff Llywodraethu’r Brifysgol i gymryd cyfrifoldeb am y methiannau hyn a chymryd camau ar frys lle bo’n ofynnol,” meddai.

Roedd Adroddiad diweddar McCormick wedi dod i’r casgliad na allai Prifysgol Cymru barhau ar ei ffurf bresennol ac y dylai naill ai gael ei diwygio’n sylweddol neu gael ei dirwyn i ben.

‘Siglo i’w seiliau’

Wrth ymateb i ddatganiad Leighton Andrews, dywedodd llefarydd addysg yr wrthblaid Angela Burns AC bod enw da Prifysgol Cymru wedi “cael ei siglo i’w seiliau gan gyfres o sgandalau yn ddiweddar.”

Ychwanegodd y dylai’r unigolion sy’n gyfrifol “gael eu dwyn i gyfrif am eu methiannau, sydd wedi niweidio enw da y sector addysg uwch yng Nghymru.”

Mae Angela Burns yn galw am ddiwygiad llwyr o Brifysgol Cymru.

Mae Golwg360 yn disgwyl ymateb gan Brifysgol Cymru i’r galwadau ar i’r Cadeirydd D Hugh Thomas ymddiswyddo.