Dros yr wythnosau diwethaf mae amryw o gynghorau tref wedi datgan eu cefnogaeth at annibyniaeth, a bellach mae’r dyn a daniodd hyn oll wedi galw ar gynghorau sir i gymryd rhan.

Mae Rhydian Mason yn aelod o gyngor tref Machynlleth, ac ef a wnaeth annog y cyngor hwnnw i ddatgan eu cefnogaeth ym mis Mai.

Cyngor Tref Machynlleth oedd y cyntaf i wneud hynny, a bellach mae cynghorau Porthmadog a Blaenau Ffestiniog wedi dilyn ei esiampl.

Â’r syniad yn cydio ymhlith cynghorau tref, mae’r cynghorydd yn galw yn awr ar gynghorau sir i ddilyn y cynghorau tref a datgan eu cefnogaeth hwythau.

“Buaswn i’n lico gweld faint o gynghorau sydd yn ddigon dewr i geisio cymryd y cam,” meddai wrth golwg360.

“Dw i’n credu mai dyma’r fflam sydd angen iddyn nhw godi. Buaswn i’n ei gynnig yn her iddyn nhw a dweud y gwir.”

Mae’r her yma, meddai ar gyfer “unrhyw gyngor sir sy’n ystyried ei hun yn gyngor tros Gymru, neu gyngor sy’n sefyll lan dros ein gwerthoedd ni yng Nghymru.”

Y syniad yn cydio

Cyngor tref Blaenau Ffestiniog yw’r diweddaraf i ddatgan eu cefnogaeth at annibyniaeth i Gymru, ac mae Rhydian Mason yn “falch iawn” o weld cynghorau eraill yn cymryd rhan.

“Dyma’n union sydd angen digwydd,” meddai. “Os ydy penderfyniad Cyngor Machynlleth wedi rhoi hyder i bobol [mae hynny’n beth da].

“Yn amlwg mae hynna wedi helpu Porthmadog, ac mae Porthmadog wedi helpu Blaenau. Gorau i gyd po fwyaf.

“Mae’n dangos ein bod ni’n barod i gymryd y cam bach nesaf. Cam bach yw e really. Dydyn ni ddim yn newid y byd.”