Mae cyfrol Manon Steffan Ros, Llyfr Glas Nebo, wedi clirio’r byrddau yn seremoni Llyfr y Flwyddyn 2019 yn Aberystwyth heno (nos Iau, Mehefin 20).

Yn ogystal â chael ei henwi’n enillydd pleidlais ‘Barn y Bobol’ golwg360, a hefyd yn enillydd y categori Ffuglen, mae hi hefyd wedi ennill y teitl ‘Llyfr y Flwyddyn’ o blith y tri chategori Cymraeg – Ffuglen, Barddoniaet a Ffeithiol Greadigol.

Cyflwynwyd y wobr o £3,000 a thlws wedi’i gynllunio a’i greu gan yr artist Angharad Pearce Jones iddi gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Dafydd Elis-Thomas.

Mae Llyfr Glas Nebo yn adrodd stori Siôn, ei fam Rowenna, a’i chwaer fach, Dwynwen, a hynny mewn llyfr nodiadau glas wrth geisio goroesi ar ôl Y Terfyn – yr hunllef a gafodd effaith ddychrynllyd ar drigolion pentref Nebo a thu hwnt.

“Llyfr bach sydd wedi cael dylanwad enfawr yn barod” yw disgrifiad Dylan Ebenezer, un o’r beirniaid o’r gyfrol fuddugol.

“Mae stori’r teulu bach yn ddoniol ac yn ddwys – yn syml ond yn syfrdanol. Ac yn boenus o bwerus ar adegau.”