Mae lleidr wedi cael ei garcharu am chwe mis am ymosod ar ddynes 95 oed wrth iddi siopa yn Llanelli.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ar y ddynes o Abertawe yn archfarchnad Asda ar Fehefin 13, a chafodd Neil Staton, 62, ei arestio’r diwrnod canlynol.
Fe fu’n ei dilyn hi o gwmpas y siop cyn dwyn bag oedd yn cynnwys £100 oddi arni.
Fe guddiodd y bag mewn cwdyn cyn gadael y siop, ac fe ddefnyddiodd yr arian i fetio mewn siop gerllaw.
Cafodd ei ddal gan yr heddlu wrth yrru yn y dref yn ddiweddarach, ac fe ddywedodd wrthyn nhw lle’r oedd e wedi gollwng y bag, oedd yn dal yn cynnwys eiddo’r ddynes.
Aeth Neil Staton gerbron ynadon Llanelli, lle plediodd e’n euog i ddwyn.
Yn ogystal â chael ei garcharu, fe fu’n rhaid iddo dalu gwerth £100 o gostau i’r ddynes.