Mae ffermwr mynydd o Sir Drefaldwyn wedi llwyddo i godi dros £11,500 at achos da ar ôl dringo naw copa mewn llai na 72 awr gydag aelodau o’i deulu.

Roedd Matt Launder o Lanerfyl, ynghyd â’i frawd, Dan Launder, a’i frodyr-yng-nghyfraith, George Collins a Gareth Owen, wedi ymgymryd â’r her er mwyn cefnogi’r DPJ Foundation, sef elusen iechyd meddwl sy’n cynnig cymorth i gymunedau gwledig yng Nghymru.

Gan frwydro yn erbyn tywydd garw, fe lwyddodd y tîm o ddringwyr i goncro naw o gopaon uchaf gwledydd Prydain mewn 71 awr a hanner dros y penwythnos.

Roedd y copaon hynny yn cynnwys Ben Nevis, Ben Macdui, Ben Braeriach, Helvellyn, Old Man of Coniston, Scafell Pike, yr Wyddfa, Cadair Idris a Phen-y-fan.

Her fawr

“Dw i’n teimlo’n hynod o browd,” meddai Matt Launder ar ôl cwblhau’r her.

“Dw i’n teimlo ein bod ni wedi cwblhau rhywbeth ar gyfer y diwydiant ac ar gyfer y bobol hynny sy’n gweithio’n ddiflino i helpu eraill.

“Yr hyn dw i’n ei werthfawrogi o’r her oedd fy mod i wedi gallu dibynnu ar y cwmni oedd gen i pan oeddwn i’n teimlo’n isel ac yn stryglo. Roedd yna rywun yna i siarad â nhw ac i roi cefnogaeth.

“Y neges yw bod rhannu a siarad am sut rydych chi’n teimlo yn gallu helpu go iawn.”