Mae dyn, 57, o ardal Trimsaran, Sir Gaerfyrddin wedi cael ei gyhuddo o droseddau’n ymwneud â ffrwydron a gwenwyn.

Mae disgwyl i Russell Wadge o Fferm Baglan ymddangos gerbron Llys Ynadon Hwlffordd heddiw (dydd Mercher, Mehefin 19) er mwyn wynebu pum cyhuddiad.

Cafodd ei arestio ar ôl i swyddogion arbenigol yr heddlu archwilio ei fferm yn ardal Trimsaran.

Mae’r ymchwiliad yn y lleoliad yn parhau, ond mae’r heddlu’n pwysleisio nad oes yna unrhyw fygythiad i’r cyhoedd.