Mae cneifiwr o Bowys wedi llwyddo i gneifio cyfanswm o 1,143 o ddefaid mewn cyfnod o 24 awr, a hynny er mwyn codi arian at achos da.

Fe lwyddodd Owen Davies, 26, o ardal Llanandras, Sir Faesyfed, i gasglu rhwng £15,000 a £20,000 ar gyfer Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru – llawer mwy na’r targed gwreiddiol o £6,000.

Cafodd y marathon o sialens ei chynnal ar Fferm Heartsease, Tref-y-clawdd, dros y penwythnos (Mehefin 14 a 15), gyda thorf o tua 400 o gefnogwyr yn ymgasglu i wylio’r cneifiwr ifanc wrth ei waith.

“Dw i wedi blino ac yn teimlo ychydig o ryddhad bod y cyfan drosodd,” meddai Owen Davies wrth golwg360.

“Mae fy nghorff yn gwneud tipyn o ddolur, ond mae wedi bod yn werth y cyfan ar ôl codi swm da o arian ar gyfer elusen anhygoel.”

Chwalu’r targed

Cyn cychwyn yr her, roedd Owen Davies, a fu’n paratoi ar gyfer y diwrnod mawr ers misoedd, wedi gobeithio cneifio hyd at gneifio 1,000 o ddefaid, ac fe lwyddodd i chwalu’r targed hwnnw er gwaethaf cyfnodau anodd yn ystod y 24 awr.

Bu’n rhaid hyd yn oed holi i ffermwr lleol ddarparu rhagor o ddefaid gan fod y cneifiwr wedi cneifio cymaint.

“Roedd yn anodd wrth i’r oriau fynd yn eu blaenau,” meddai Owen Davies. “Ar y cychwyn, roeddwn i’n teimlo’n ddigon ymlaciedig, ond fe aeth hi’n anoddach wrth iddi dywyllu ac oeri y tu allan.

“Roedd y nos yn adeg anodd, ond unwaith y dechreuodd pobol ddychwelyd ar y dydd Sadwrn i gefnogi, roedd hi’n haws.”