Mae Dewi Pws yn dweud mai’r hyn y mae ei gofio’n bennaf am Heulwen Hâf yw ei bod hi’n berson “larger than life”.

Bu’r ddau’n cydweithio yn y gyfres Lan a Lawr ar S4C yn 2015, lle roedd Heulwen Hâf yn chwarae rhan yr artist ecsentrig, Magda.

Er na ymddangosodd hi a Dewi Pws (‘Mal’) mewn llawer o olygfeydd â’i gilydd, mae’r actor yn cofio proffesiynoldeb y ddynes o Gorwen a oedd yn “actores gyda steil”.

“Roedd hi’n fenyw cŵl iawn, ac fel actores roedd hi’n wych ac roedd pawb yn licio gweithio gyda hi,” meddai Dewi Pws wrth golwg360.

“Mae rhai pobol yn gallu bod yn fwy na’u talent nhw, ond doedd hi byth. Roedd hi’n broffesiynol iawn ac wastad yn cael hwyl.

“Roedd hi wastad gyda gwên ac roedd amser gyda hi i wrando arno ti.”

Cyfarfod mewn gym

Yn ogystal â dod â steil i’r byd actio, roedd Heulwen Hâf hefyd yn creu argraff lle bynnag yr ai, meddai Dewi Pws.

Fe’i gwelodd hi mewn gym un tro yn defnyddio peiriant rhedeg, ac mae’n cofio rhyfeddu at y ddynes oedd yn gwisgo siwmper hir, sgarff a modrwyon ar ei bysedd wrth ymarfer corff.

“Ro’n i’n meddwl, ‘iesgob, mae hon yn film star o Holywood neu rywbeth,” meddai Dewi Pws. “A dyma fi’n mynd rownd, a hi oedd yna, ac fe ddywedodd hi, ‘helo, shwmae’, a dim chwys ar ei phen hi o gwbwl…”