Mae plismyn yn Llanelli yn chwilio am dystion i ymosodiad ddifrifol a ddigwyddodd yng nghanol y dref rai wythnosau’n ôl.

Mae dyn 36 oed wedi cysylltu â’r heddlu wedi iddo gael ei anafu’n ddrwg yn ystod oriau mân Ebrill 28.

Fedr o ddim cofio’n union be’ ddigwyddodd iddo, ond mae’n dweud iddo ddeffro yng nghyffiniau bwyty Hungry Horse.

Roedd wedi torri esgyrn yn ei ben, wedi profi gwaedlif ar yr ymennydd, ac wedi torri esgyrn eraill yn ei gorff.

Mae lluniau cylch cyfyng yn awgrymu fod yna bobol a allai fod wedi gweld yr hyn ddigwyddodd. Mae swyddogion yn arbennig o awyddus i siarad â menyw yn gwisgo jîns tywyll a siaced felen.