Mae cyn enillydd rhaglen BBC, The Apprentice, wedi gwneud addewid i ddysgu’r Gymraeg, a hynny gyda chwmni SaySomethinginWelsh.

Fe fydd Alana Spencer, enillydd sioe’r gŵr busnes Alan Sugar yn 2016, yn cael gwersi gan gwmni Aran Jones ar ôl cyhoeddi ei bwriad i ddysgu’r iaith.

O deulu Saesneg eu hiaith mae hi, ond fe gafodd ei magu Aberystwyth ac aeth i’r ysgol yn Aberaeron felly tydi Cymru a’r Gymraeg ddim yn ddieithr i Alana Spencer. Ond doedd ganddi “ddim diddordeb i ddysgu Cymraeg yn yr ysgol”.

“Mae’n deimlad braf pan fyddwch chi’n clywed gair neu ymadrodd yr ydych chi’n ei adnabod ac yn gallu deall ychydig am yr hyn mae’r bobl o’ch cwmpas yn ei ddweud,” meddai Alana Spencer wrth golwg360.

“Mae rhai o fy ffrindiau yn siarad Cymraeg ar ôl dysgu’r iaith yn yr ysgol, felly byddai’n braf gallu ymuno.”

“Dilyniant naturiol a phwysig”

Mae Alana Spencer nawr yn rhedeg cwmni cacennau Ridiculously Rich ar ol ennill gwobr gwerth £250,000 ar ôl gwneud argraff ar Alan Sugar.

“I ddechrau, mae dysgu Cymraeg o ganlyniad i lawer o gwsmeriaid yn fy hoff ddigwyddiadau fel Sioe Frenhinol Cymru yn fy nghyfarch yn Gymraeg a byddwn wrth fy modd o leiaf yn gallu eu cyfarch yn ôl!” meddai.

“Rwyf hefyd yn falch iawn bod fy musnes wedi cael ei eni a’i fagu yng Nghymru ac felly mae gallu siarad Cymraeg yn wirioneddol yn teimlo fel dilyniant naturiol a pwysig i mi.”

“Mae’r ymateb wedi bod mor garedig a chadarnhaol. Yn bendant mae wedi rhoi hwb i mi a hyd yn oed mwy o gymhelliant i ddysgu’r iaith.”