Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod ganddyn nhw “bryderon difrifol” ynghylch bwriad Llywodraeth Cymru i sefydlu corff newydd a fydd yn disodli Cynghorau Iechyd Cymuned.

Daw wrth i’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, gyflwyno’r Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol gerbron y Cynulliad heddiw (dydd Llun, Mehefin 17).

Mae’r bil yn cynnwys sefydlu un corff a fydd yn “llais newydd ac annibynnol” i gleifion Cymru sydd am gwyno am y gwasanaethau iechyd a gofal maen nhw’n eu derbyn.

Ond mae’r Aelod Cynulliad, Angela Burns, yn gwrthwynebu’r bwriad hwn, gan ddweud y byddai’n “canoli llais y cleifion”.

“Rydyn ni’n gwybod bod yna anghysondebau mawr o ran safon y gofal ledled Cymru, a bydd cael gwared ar y gweithwyr ar lawr gwlad yn yr ardaloedd mwyaf bregus yn anfon y neges anghywir,” meddai’r aelod tros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro.

“Fe gyhoeddon ni’r Ceidwadwyr Cymreig yn ddiweddar y byddwn ni’n brwydro i amddiffyn annibyniaeth y Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru, ac rydyn ni am barhau i wneud hynny trwy wrthwynebu’r cynigion.

“Bydd arolygiaeth iechyd ganolog a diffyg cynghorau iechyd lleol yn rhoi mwy o reolaeth a llai o atebolrwydd wrth droed y Gweinidog Iechyd methiannus.”