Mae plismones wedi cyfaddef torri côd ymddygiad yr heddlu ar ôl iddi geisio celu ei chysylltiad ag aelod o’r rheithgor mewn achos llofruddiaeth.

Roedd y Ditectif Gwnstabl Rebecca Bryant o Heddlu De Cymru wedi dweud celwydd am ei pherthynas â Laura Jones, sef cariad ei mab, yn ystod achos llys yn 2016.

Roedd y blismones hefyd wedi anfon negeseuon at y cynorthwyydd dosbarth yn dweud: “paid â dweud pwy wyt ti” ar drothwy’r achos, yn ogystal â dweud bod ganddi’r hawl i golli diwrnod o’r achos oherwydd bod ganddi apwyntiad gwallt.

Daeth y gwir i’r fei ychydig wythnosau ar ôl i Dwayne Edgar, Jake Whelan a Robert Lainsbury gael eu dedfrydu i oes o garchar am ladd Lynford Brewster, 29, yn ninas Caerdydd ym mis Mehefin 2016.

Llwyddodd y tri i apelio yn erbyn eu dedfrydau ym mis Gorffennaf y llynedd, cyn iddyn nhw gael eu dedfrydu unwaith eto yn gynharach eleni.

Panel disgyblu

Mewn gwrandawiad gerbron panel disgyblu yng Nghaerdydd heddiw (dydd Llun, Mehefin 17), mae Rebecca Bryant wedi cyfaddef torri tair safon yn y côd ymddygiad drwy beidio â datgelu ei chysylltiad â Lauren Jones.

Yn dilyn yr achos llys, cafodd cwyn ei chyflwyno i Wasanaeth Erlyn y Goron ynglŷn â’r ffaith bod Rebecca Bryant a Lauren Jones yn adnabod ei gilydd. Cafodd y blismones ei holi wedyn gan y Ditectif Prif Arolygydd, Mark O’Shea.

“Dywedodd wrth DCI O’Shea nad oedd hi’n nabod yr aelod o’r rheithgor,” meddai’r swyddog cyflwyno, Jeremy Johnson. “Roedd hynny’n gelwydd.

“Fe gywirodd ei safle’r diwrnod wedyn, ond erbyn hynny roedd Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi derbyn gwybodaeth anghywir ynglŷn â’r mater.”

Roedd Rebecca Bryant wedi gwasanaethu gyda Heddlu’r De am 18 mlynedd cyn iddi ymddiswyddo yn dilyn y digwyddiad.

Mae’r gwrandawid yn parhau.