Fydd y Ceidwadwyr Cymreig ddim yn gadael i ofalwyr yng Nghymru gael eu hanwybydu, yn ôl un o Aelodau Cynulliad y blaid.

Mae Janet Finch-Saunders wedi bod yn cyfarfod â phenaethiaid Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn y gogledd i drafod dulliau mwy effeithiol o recriwtio a chadw staff gofal iechyd cymdeithasol a chreu cynlluniau gofal a thriniaethau.

Bu’n galw ers tro ar Lywodraeth Cymru i wella’r cymorth sydd ar gael i ofalwyr o bob oedran, a chynhaliodd hi ddadl yn y Senedd ym Mae Caerdydd yn ddiweddar er mwyn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod anghenion oedolion sy’n ofalwyr.

Mae 21,000 o bobol rhwng 14 a 25 oed yng Nghymru’n ofalwyr, ac mae Janet Finch Saunders am dynnu sylw at rwystrau sy’n wynebu gofalwyr o ran addysg a hyfforddiant.

Bydd gofal cymdeithasol yn rhan allweddol o faniffesto nesa’r Ceidwadwyr Cymreig.

Bydd bwrdd polisi ‘Syniadau Mawr’ yn cyfarfod fis nesaf, lle bydd 40 i 50 o arbenigwyr yn trafod ariannu gofal, integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol a rôl llywodraeth leol wrth gynnig gofal.

“Gweithio’n ddiflino”

“Rwy’n falch o gael cefnogi Wythnos Gofalwyr drwy barhau i hybu’r gweithlu tawel hwn ledled Cymru trwy fy sgyrsiau gyda byrddau iechyd a gwneuthurwyr polisïau,” meddai Janet Finch-Saunders.

“Ar ôl lansio galwadau’r Ceidwadwyr Cymreig ar Lywodraeth Lafur Cymru i wneud mwy i gysylltu gofalwyr ag addysg, hyfforddiant a chyfleoedd iddyn nhw eu hunain, rwy’n edrych ymlaen at barhau â’r siars yma gyda’n digwyddiad bwrdd polisi sydd ar y gweill.

“Mae gofalwyr yn gweithio’n ddiflino ac yn anhunanol tros eraill, ond fydd y Ceidwadwyr ddim yn gadael iddyn nhw gael eu hanwybyddu.”